Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2015

 

 

 

Amser:

09.03 - 10.59

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/2734

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

William Graham AC

Mike Hedges AC

Sandy Mewies AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Sara Ahmad, Llywodraeth Cymru

John Howells, Llywodraeth Cymru

June Milligan, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Michael Kay (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Nick Selwyn (Swyddfa Archwilio Cymru)

Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru)

Dave Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies.

 

</AI2>

<AI3>

2   Papurau i’w nodi

2.1 Nodwyd y papurau. Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Dr Peter Higson (Eitem 2.2) yn ystod rhan breifat y cyfarfod.

 

</AI3>

<AI4>

2.1 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Gyngor Celfyddydau Cymru (13 Mai 2015)

 

</AI4>

<AI5>

2.2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (15 Mai 2015)

 

</AI5>

<AI6>

2.3 Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru (Mai 2015)

 

</AI6>

<AI7>

2.4 Diwygiad Lles: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Tai Cymru a Gorllewin Lloegr (Mai 2015)

 

</AI7>

<AI8>

2.5 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Steve Martin, Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru (21 Mai 2015)

 

</AI8>

<AI9>

3   Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 5

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru; a Sara Ahmad, Economegydd, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, ar ei ymchwiliad i ddiwygiad lles.

3.2 Cytunodd June Milligan i wneud y canlynol:

·         Anfon nodyn ynghylch y safleoedd y mae awdurdodau lleol wedi'u rhyddhau ar gyfer datblygu tai;

·         Gwneud sylw ar sefyllfa bresennol y cymdeithasau tai yn newid eu polisïau dyraniadau fel nad oes gwaharddiad ar denantiaid sydd â rhent fel ôl-ddyledion yn seiliedig ar ddyledion budd-dal tai;

·         Gwneud sylw ar effaith y cap budd-dal is arfaethedig yng Nghymru;

·         Dadansoddiad o ardal awdurdodau lleol o dai yr effeithir arnynt (pan fo'r wybodaeth hon ar gael) gan y cap budd-dal is arfaethedig.

 

 

 

 

</AI9>

<AI10>

4   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI10>

<AI11>

5   Diwygiad Lles: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI11>

<AI12>

6   Rhagnodi Gofal Sylfaenol: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

6.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Cytunwyd y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn briffio'r Pwyllgor ar ei femorandwm ar Ragnodi Gofal Sylfaenol yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mehefin.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>